Profiant, Ymddiriedolaethau, Ewyllysiau a Chynllunio Treth
Ewyllysiu a chynllunio treth
Profiant (Probate) yw’r term cyffredinol sydd yn disgrifio adran y gyfraith sydd yn ymwneud â dirwyn i ben faterion person sydd wedi marw. Mae’n cynnwys talu unrhyw ddyledion neu drethi sydd yn ddyledus, gwerthu tai a.y.y.b. ac yna rhannu eiddo’r person yn ôl telerau’r ewyllys (os oes un mewn bod), neu i benderfynu pwy yw’r cymyndderbynwyr os nad oes ewyllys.
Mae ysgrifennu ewyllys yn waith pwysig a ddylai gael ei ymgymryd gan berson profiadol yn y gwaith. Mae paratoi ewyllys yn y modd cywir yn gofyn, nid yn unig am wybodaeth o’r gyfraith sy’n ymwneud ag ewyllysiau, ond hefyd gwybodaeth drwyadl am feysydd eraill megis Trawsgludo, Trethi, ac Ymddiriedolaethau.
Mae creu ewyllys yn sicrhau bod eich eiddo yn cael ei etifeddu yn ôl eich dymuniadau – os na fyddwch yn gadael ewyllys bydd eich eiddo yn cael ei rannu rhwng perthnasau trwy waed mewn trefn penodedig, pa mor gyfoethog bynnag y bônt, neu p’un ai yr ydych yn hoff ohonynt ai peidio.
Dylai pawb wneud ewyllys er mwyn sicrhau fod eu dymuniadau yn cael eu gwireddu, ond mae’n arbennig o bwysig i gwpl di-briod gan y gall y gadael i’r gyfraith gyffredinol drefnu pethau arwain at ganlyniadau annisgwyl ac annerbyniol pan fydd y partner yn marw.
Mae Ymddiriedolaeth (trust) yn bodoli pan fydd person yn gofalu am arian neu eiddo person arall. Cant eu defnyddio yn aml o fewn ewyllysiau a chant hefyd eu defnyddio mewn amryw o sefyllfaoedd megis edrych ar ol eiddo ar ran plant neu i bobl anabl.
Cysylltwch ag aelod o’n Tîm Profiant , Ewyllysiau, ac Ymddiriedolaethau i ddarganfod sut y gallwn eich helpu. Mae gennym aelodau profiadol ymhob un o’n tair swyddfa.
Wills • Probate & the Administration of Estates • Trust Matters • Deputyship & Court of Protection Matters • Powers of Attorney
Wills • Probate & the Administration of Estates • Powers of Attorney • Residential & Commercial Conveyancing • Notary Services
Wills • Probate & the Administration of Estates • Trust Matters • Deputyship & Court of Protection Matters • Powers of Attorney
Wills • Probate & the Administration of Estates • Trust Matters • Deputyship & Court of Protection Matters • Powers of Attorney
Residential Conveyancing • Wills • Powers of Attorney • Probate & the administration of Estates
Wills • Probate & the Administration of Estates • Tax Planning • Trusts • Court of Protection Matters • Powers of Attorney (including Powers of Attorney for business owners)