Gwasanaethau i’r Cleient Hyn

Powers of Attorney & Court of Protection

Gwasanaethau i’r Cleient Hyn

Pwerau Atwrneiaethol a Llys Gwarchod

Mae nifer o gwsmeriaid Bone & Payne yn oedrannus ac oherwydd hyn yr ydym yn hen gyfarwydd â chynnig gwasanaeth a chyngor clir ar gyfer y genhedlaeth hŷn. Mae ein cyfreithwyr yn aelodau o grwp Solicitors for the Elderly a Society for Trust and Estate Practitioners. Gallwn gynorthwyo gyda Pwerau Atwrneiaethol a gwneud ceisiadau i’r LLys Gwarchod am Apwyntiadau Dirprwyaeth.

Mae talu am ofal yn creu pryder i nifer ‘n cleiantiaid hyn, p’un ai costau gofal tymor hir neu yntau chwilio am gyngor ynglyn â hawl i dderbyn cymorthdal gan Awdurdod Lleol, neu i gael gofal parhaol gan y Gwasanaeth Iechyd ar sail hawliau budd-dal anabledd.

Byddwn yn eich cynghori ynglyn â’ch hawliau yn ôl eich sefyllfa unigol chwi.

Pwerau Atwrneiaethol

Mae’r LPA  (Pwer Atwrneiaethol Parhaol) yn fodd rhoi i rhywun yr ydych ynymddiried ynddo ( gall hyn fod eich twrne) yr hawl cyfreithlon i wneud penderfyniadau drosoch – naill ai mewn materion ariannol neu ynlyn a’ch iechyd a lles os byddwch, rhywbryd yn y dyfodol, yn colli’r gallu i wneud y penderfyniadau eich hun.

Bydd ein tîm cyfeillgar yn barod i drafod eich sefyllfa ac i’ch cynghori a’ch tywys yn ofalus drwy’r broses o baratoi Pwer Atwrneiaethol.

Dirprwyaeth

Mae gan y Llys Gwarchod yr awdurdod i benderfynnu materion ariannol neu faterion lles ar rhan pobl nad oes gennynt y gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae gan y Llys hawl i apwyntio Dirprwy i ofalu am feddiannau personol neu eiddo person na all weithredu yn rhesymol feddyliol.

Os bydd rhaid i chwi, neu berthynas i chwi, ymwneud â Llys Gwarchod, gallwn eich cynorthwyo a’ch cynghori er mwyn sicrhau eich bod yn deall a medru dilyn y penderfyniadau a wneir. Gallwn hefyd weithredu fel eich Dirprwy yn dilyn ein apwyntiad gan y Llys.

Cysylltwch ag aelod ô’n tîm Pwerau Atwrneiaethol i ddarganfod sut y medrwn fod o gymorth i chwi.

Contact a member of our Elderly client team to find out how we can help.

Wills • Probate & the Administration of Estates • Trust Matters • Deputyship & Court of Protection Matters • Powers of Attorney

Wills • Probate & the Administration of Estates • Powers of Attorney • Residential & Commercial Conveyancing  • Notary Services

Wills • Probate & the Administration of Estates • Trust Matters • Deputyship & Court of Protection Matters • Powers of Attorney

Wills • Probate & the Administration of Estates • Trust Matters • Deputyship & Court of Protection Matters • Powers of Attorney

Residential Conveyancing • Wills • Powers of Attorney • Probate & the administration of Estates

Wills • Probate & the Administration of Estates • Tax Planning • Trusts •  Court of Protection Matters • Powers of Attorney (including Powers of Attorney for business owners)