Datrys Anghydfod

Notary Services

Datrys Anghydfod

Datrys Anghydfod

Mae Datrys Anghydfod yn ymwneud â dadleuon neu anghydweld.

Mae dwy wahanol ffurf o Ddatrys Anghydfod. Yn gyntaf, – lle mae barnwr neu rheithgor yn dod i benderfyniad ac yn ail, prosesau cydsyniol megis cyfryngiad, cymodiad neu drafodaeth, lle mae’r partion yn ceisio dod i gytundeb.

Credwn mai camau olaf ddylai mesurau barnwraethol fod. Yr ydym yn ymwybodol y gall anghydfodau fod yn rhwystredigaeth ac yn cymryd amser, ond gallant hefyd fod yn annymunol ac yn ddrud os na ddelir a nhw mewn modd cywir. Felly, yr ydym bob amser yn ceisio darganfod dulliau o ymateb fydd yn arbed mynd i Lys Barn.

Cyfryngiad

Mae cyfryngiad yn golygu fod person annibynol yn ymyrryd mewn trafodaethau er mwyn cynorthwyo’r rhai sydd mewn anghydfod i ddod a’r mater i ben mewn modd sydd yn dderbyniol i’r ddwy blaid. Ychydig iawn o bwerau i wneud penderfyniadau awdurdodol sydd gan y trydydd parti, ac nid yw yn gweithredu yn farnwrol o gwbl, ei swydd yw hwyluso dealltwriaeth rhwng y pleidiau gyda’r amcan o ddod i gytundeb sy’n dderbyniol gan bawb.

Mae nifer o fanteision i gyfryngiad gan gynnwys rhoi cyfle i’r i’r ddwy blaid gael “deud eu deud”ac i ddod i gytundeb yn fwy buan, dilyn proses “heb ymrwymiad” ac arbed costau.

Cyfreithiad

Os, am ba rheswm bynnag, y bydd cyfryngiad neu broses gydweledol yn methu datrys eich problem byddwn yn cynnig gwasanaeth cyfreithiad. Cyfreithiad yw’r term sy’n disgrifio’r gweithrediadau cyfreithlon rhwng dau wrthwynebydd er mwyn gorfodi neu amddiffyn hawl gyfreithlon. Fel  arfer, caiff ei setlo drwy gytundeb, ond fe all y penderfynaid gael ei wneud gan farnwr neu rheithgor mewn llys barn.

Mae gennym brofiad eang yn y maes cyfreithiol anodd hwn ac yr ydym yn ymwneud â’r agweddau canlynol :-

  • Ceisiadau Etifeddiaeth
  • Landlord a Thenant
  • Adeiladau
  • Saerniaeth
  • Cytundebau
  • Adennill dyledion
  • Diofalwch Proffesiynol
  • Eiddo (yn cynnwys Terfynau)

Cysylltwch a’n tîm Adferiad Anghydfod i ddarganfod sut y medrwn fod o gymorth i chwi.

Crime • Family Work • Estate & Trust Disputes • Civil Litigation • Mediation

Personal Injury • Civil Litigation • Mediation • Family Law