Prynu a Gwerthu eich cartref

Buying and Selling your Home

Prynu a Gwerthu eich cartref

Prynu a Gwerthu eich cartref

Pan fyddwch yn prynu neu werthu tŷ neu eiddo masnachol mae angen cyfreithiwr arnoch i ymgymryd â’r Trawsgludiad. Mae ein cyfreithwyr trwyddiedig yn ymwneud â phob math o Drawsgludo, gan gynnwys prynu a gwerthu eiddo personol ac eiddo masnachol, ar ffurf rhydd-ddaliad neu ar brydles.

Fel rheol byddwn yn gweithredu ar sail “prîs sefydlog cystadleuol” a medrwn gynnig y gwasanaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae nifer o’n tîm Trawsgludo yn enedigol yn yr ardal hon, ac wedi gweithio yma ers nifer o flynyddoedd ac mae’n siwr y bydd eu gwybodaeth leol o fantais i chwi.

Mae ein gwaith trawsgludo yn dechrau pan fyddwch yn derbyn cynnig am eich tŷ, neu pan fydd pris yr ydych chwi wedi cynnig am dŷ yn cael ei dderbyn gan y gwerthwr; mae yn parhau ar ôl i chwi dderbyn y goriadau i’ch tŷ newydd ac yn dal yn weithredol hyd nes i’r broses o gofrestru ddod i ben.

Yr ydym yn un o aelodau gwreiddiol y cynllun Safoni Trawsgludo a sefydlwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Mae’r cynllun yma yn mynnu safonnau uchel o onestrwydd, dibyniaeth, a gwasanaeth – ac felly gallwch fod yn hyderus ein bod yn deilwng o’ch ffydd ynom.

Eiddo Masnachol

Mae gennym arbenigwyr i ddelio â phob agwedd o eiddo masnachol. Yn aml bydd prynu neu werthu eiddo masnachol yn rhan o drosglwyddo busnes cyfan â gallwn eich helpu a hynny hefyd. Cysylltwch â ni am wasanaeth cyflawn am bris cystadleuol.

Landlord a Thenant

Os ydych yn landlord neu denant gallwn eich cynorthwyo i baratoi prydles preswylfa neu brydles fasnachol, neu eich cynghori ynglŷn a gofynion ac oblygiadau ymrwymo i brydles fasnachol neu un ar gyfer cartref personol.

Cysylltwch ag aelod o’n Tîm Trawsgludo i drafod sut y gallwn eich helpu

Atwrnai Busnes

Pan yn dewis strwythur eich busnes mae’n bwysig i chi ystyried beth all ddigwydd i chi yn y dyfodol, a sut bydd eich busnes yn gweithredu mewn amgylchiadau annisgwyl.

Dylech felly ystyried apwyntio Atwrnai i ddelio â materion busnes ar eich rhan os byddwch chi yn methu gwneud hynny.

Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni, yn bartner busnes neu mewn busnes ar eich liwt eich hun dylech sicrhau bod trefniadau yn eu lle i sicrhau fel y gall eich busnes barhau os byddwch yn methu gwneud penderfyniadau am ryw reswm. Gallwch fod mewn sefyllfa lle na fydd eich busnes yn medru talu cyflog staff, dalu cyflenwyr na gwneud cytundebau.

Gall Bone and Payne eich cynorthwyo drwy gynnig cyngor arbenigol a sicrhau fod y dogfennau priodol yn eu lle.

Gallwn eich helpu I ddewis y pobl cywir rydych yn ymddiried ynddynt sy’n deall eich busnes.

Bydd hyn yn sicrhau bod eich busnes yn parhau pe baech yn yn colli y gallu I wneud penderfyniad, yn cael damwain neu os ydych allan o’r wlad am gyfnod

Cysylltwch â Gareth Tierney- Jones Mark Sandham neu Carys Jenkins am fwy o fanylion.

Residential & Commercial Conveyancing Business Matters • Landlord & Tenant

All aspects of Residential & Commercial Property

Wills • Probate & the Administration of Estates • Powers of Attorney • Residential & Commercial Conveyancing  • Notary Services

Family Law • Residential Conveyancing • Divorce

Residential Conveyancing • Wills • Powers of Attorney • Probate & the administration of Estates

Commercial & Residential Conveyancing

Residential Conveyancing

Company & Commercial Law • Commercial & Residential Conveyancing • Employment Law