Ein Costau

Ein Costau

Yn ddibynnol ar natur eich mater cyfreithlon gallwn gynnig amcangyfrif neu bris sefydlog am y gwaith angenrheidiol. Os nad yw’n bosib dyfynnu prîs sefydlog – er enghraifft pan yn delio efo materion cynhennus (pan fyddwch yn dadleu efo rhywun neu yn ymddangos mewn llys barn) – byddwn yn darpau amcangyfrif ô’r costau tebygol ynghŷd ag eglurhad ô’r dull o gyfrif, ac yn rhannu gwybodaeth yn gyson efo chwi wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Mewn ambell sefyllfa, er enghraifft cais am hawl niwed personol, gallwn, cyn cychwyn gytuno ar ffî amodol neu drefniant “dim ffî heb ennill”.

Mae ychydig feysydd penodedig ô’r gyfraith lle mae’n bosibl cael “Cymorth Cyfreithiol”( Legal Aid) – er enghraifft ambell achos droseddol ac ambell achos lle mae’r teulu’n chwalu. Os yw’r ddarpariaeth ar gael ac yn berthnasol i chwi rhown wybod i chwi.

Ymhob sefyllfa byddwn yn trafod costau a dulliau o dalu efo chwi ymlaen llaw ac yna yn darparu gwasanaeth effeithiol a chost effeithiol.