Cyfraith Teulu

Notary Services

Cyfraith Teulu

Cyfraith Teulu

Mae Cyfraith Teulu yn adran o’r gyfraith sydd yn ymwneud â’r hyn sydd yn berthnasol i fywyd cartrefol pobl – gan gynnwys cwplau priod a di-briod, partneriaeth sifil, plant, a neiniau a teidiau.Mae’r materion yma yn aml yn galw am ymateb sensitif a chyda empathi a dealltwriaeth. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ymateb yn y modd hwn.

Mae ein tîm yn cynnwys aelodau achrededig gan “Resolution” – sefydliad sydd yn annog agwedd gadarnhaol, gwrth-gyfwynebiadol pan yn ymwneud a materion Cyfraith y Teulu.  Mae ein gwasanaeth cynhwysfawr gogyfer a chyfraith deuluol yn cynnwys delio efo Llys Achosion Teuluol, Llys y Goron, neu’r Uchel-lys, ac mae ein arbenigedd yn cynnwys cynnig cymorth cefnogol a chymorth yn y meysydd canlynol :-

  • Ysgariad
  • Partneriaeth Sifil
  • Ymwahaniad cyplau priod a di-briod
  • Dadleon ariannol a materion eiddo
  • Sefyllfaoedd yn ymwneud a phlant, gan gynnwys lleoliad cartrefol, cysylltiad, a chyfrifoldeb  rhiant
  • Achosion Gofal plant
  • Cytundeb cyn-briodasol
  • Amddiffyniad rhag camdriniaeth teuluol, poenydiaeth a ffyrnigrwydd
  • Hawliau Neiniau a Teidiau

Amcaniwn tuag at ddwyn anghydfod i ben mor fuan, ac mewn modd mor gyfeillgar a phosibl. Ceisiwn gynnig gwasanaeth sydd mor effeithiol,a rhesymol ei gost , i bawb o’n cwsmeriaid. Ceisiwn ddelio â’r materion hyn mewn modd effeithiol mewn cyfnod sydd yn aml yn drawmatig i’r rhai sydd yn ei ganol.

Cysylltwch ag aelod ô’n tîm Cyfraith Deuluol i ddarganfod sut y gallwn eich helpu.

Crime • Family Work • Estate & Trust Disputes • Civil Litigation • Mediation

Personal Injury • Civil Litigation • Mediation • Family Law