Pam Dewis Ni?

Gwasanaeth a Gofal

Yr ydym yn ymwybodol fod materion cyfreithlon yn medru achosi pwysau a phryder meddwl oherwydd ansicrwydd neu gymlethdod, hyd yn oed mewn digwyddiadau dymunol megis prynu tŷ newydd. Ein bwriad yw esmwytho eich meddwl drwy wrando yn ofalus ac yna egluro’r sefyllfa yn glir. Medrwn drefnu eich cyfarfod mewn unrhyw un o’n tair swyddfa, yn eich cartref, neu mewn man arall cyfleus i chwi, ac fe ymdrechwn i ddelio â’ch busnes yn yr iaith Gymraeg os y dymunwch.

Unwaith y byddwn wedi dadansoddi eich sefyllfa neu broblem gyfreithlon byddwn yn trafod y costau tebygol cyn cychwyn unrhyw waith. Gwyddom fod costau derbyn cyngor ar faterion cyfreithlon yn aml yn boen meddwl ac yr ydym yn hollol rwymedig i fod yn hollol deg a thryloyw ynglŷn â’n ffioedd.

Am fwy o wybodaeth am gostau cliciwch yma

Pan fyddwch yn barod i symud ymlaen byddwn yn cadarnhau ein telerau llawn yn ysgrifennedig, ynghyd ag amlunelliad o’r mater dan sylw a sut y bwriadwn ymateb iddo. Byddwn yn ysgrifennu atoch drwy gydol cyfnod ein gwaith ac yn barod i ymateb i unrhyw gwestiwn neu gonsyrn fydd gennych. Ar derfyn eich mater byddwn yn ysgrifennu atoch i ddatgan y canlyniad ac i’ch cynghori ynglyn ag unrhyw weithred angenrheidiol bellach. Byddwn hefyd yn gofyn am eich ymateb i safon y gwaith a wneud ar eich rhan drwy lenwi ffurflen bodlonrwydd cwsmer.

Yn agos atoch

Gyda swyddfeydd yn Llandudno, Bae Colwyn, a Hen Golwyn gallwn gynnig gwasanaeth ar draws Gogledd Cymru ac ymhellach. Hefyd gallwn eich cyfarfod yn eich cartref neu mewn safle arall sy’n addas. Bydd y person sy’n trafod eich busnes ar gael i ymateb mor fuan a phosib i’ch ymholiadau drwy alwad ffôn, e-bost, neu lythyr.

Diolch am ymweld a’n safle wê. Cysyllwch a ni ar un o’r rhifau ar y dudalen cysylltwch a ni.  Edrychwn ymlaen at ddod i gysylltiad â chi.