Anaf Personol

Notary Services

Anaf Personol

Anaf Personol

Mae “Anaf Personol” yn cynnwys anaf i’r corff, y meddwl, neu’r emosiynau. Mae’n cynnwys damweiniau ffordd, damwain yn y gweithle, damweiniau mewn mannau cyhoeddus, ac anafiadau oherwydd trosedd. Mewn sefyllfaoedd fel rhain y cwestiwn sylfaenol yw : os digwydd damwain nad ydych chwi yn gyfrifol amdano a ddylech chwi ddioddef mewn canlyniad?

Byddwn yn ymgymryd ag achosion Anaf Personol ar sail “Cytundeb Amodol” – dim Ffi heb ennill – gyda’r bwriad o ddatrys eich achos mor ddiffwdan a phosib a chyda’r swm fwyaf posibl o iawndal i chwi.

Ceisiwn sicrhau ein bod yn ymateb i bob agwedd ô’ch colled, gan gynnwys colledion incwm, poen a dioddefaint, biliau meddygol, gofal a chymorth, ac eiddo personol.

Mewn cyfnod poenus, yn gorfforol ac yn ariannol, mae’n bwysig fod gennych ffydd yn yr hwn sydd yn cynnig cymorth cyfreithlon i chwi. Yr ydym yn gwarantu y bydd eich achos yn nwylo cyfreithiwr sydd yn gymwys a phrofiadol. Bydd ef neu hi :

  • o dan oruchwyliaeth yr Awdurdod Rheolaeth Cyfreithwyr (Solicitors Regulation Authority)
  • yn aelod o Gymdeithas Cyfreithwyr Anaf Personol – corff annibynol sydd yn trwyddedi cyfreithwyr sydd yn arbenigo mewn achosion anaf personol.

Yr ydym yn sicrhau ein bod bob amser yn ymwybodol ô’r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfraith Anaf Personol ac yn benderfynol o weithredu yn ddygn ar eich rhan er mwyn sicrhau y canlyniad gorau posibl i chwi.

Cysylltwch ag aelod o’n tim Anaf Personol i ddarganfod sut y gallwn fod o gymorth. Medrwn drefnu ymweliad â’ch cartref, neu mewn ysbyty os bydd angen, ond i chwi wneud apwyntiad ymlaen llaw.

Personal Injury • Civil Litigation • Mediation • Family Law