Cyfraith Cwmniau a Masnachol
Cyfraith Cwmniau a Masnachol
Yn Bone & Payne mae ganddo ni brofiad helaeth o ddelio hefo pob math o fusnesau, yn cynnwys busnesau sydd newydd gychwyn, neu wrthi’n tyfu’n sylweddol, boed hynny yn gwmni bychan, canolig neu mawr.
Gall ein tim ymroddedig eich cynorthwyo gyda phob agwedd o gyfraith cwmniau a masnachol ar hyd oes eich busnes, i sicrhau eich bod yn manteisio ar ein arbenigedd cyfreithiol i ddelio hefo’r realiti dyddiol sydd yn eich wynebu.
Mae Bone & Payne yn ymfalchio yn ein gallu i ddeallt eich busnes ac i ddarparu cyngor cyfreithiol i gleiantiaid masnachol sydd yn glir, yn fasnachol cadarn ac yn gost-effeithiol.
Rydym yn gallu darparu cyngor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
Contractau masnachol
Os ydych yn paratoi termau ac amodau eich busnes, neu yn bwriadu arwyddo contract gyda chwsmer neu gyflenwr pwysig, gall Bone & Payne eich cynorthwyo drwy gynnig cyngor ymarferol a masnachol gadarn i sicrhau bod unrhyw dermau yn y contract yn glir o’r cychwyn.
Dewis y strwythyr busnes cywir
Mae’n bwysig i gael strwythyr eich busnes yn gywir, nid yn unig ar gychwyn bywyd y busnes ond hefyd wrth iddo dyfu. Os ydych mewn busnes ar eich liwt eich hun, mewn partneriaeth, mewn partneriaeth cyfyngedig neu yn rhedeg cwmni cyfyngedig, gall Bone & Payne weithio gyda chi ac eich cyfrifydd i’ch cynorthwyo i sicrhau eich bod chi’n dewis y strwythyr cywir, hefo’r dogfennau iawn yn eu lle. Gall hwn gynnwys paratoi cytundebau partneriaeth, cytundebau cyfranddaliadau ac erthyglau cwmni.
Prynu a gwerthu busnes
Gall Bone & Payne eich cynorthwyo i brynu a gwerthu busnes, una’i trwy cytundeb ased neu gytundeb cyfranddaliad. Drwy weithio yn gytun hefo’ch cynghorwyr professiynol eraill, rydym yn gallu cynnig cymorth trwy gydol y mater.Gallwn eich cynghori ynglyn a chreu’r prif dermau, paratoi cytundebau gwaharddiad a chyfrinachol, delio gyda’r diwydrwydd dyladwy chyfreithiol yn ogystal a’r brif gytundeb prynu neu werthu. Gallwn hefyd ddelio a’r holl faterion ategol i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor sydd angen mewn mater mor bwysig.
Cyfraith Cwmniau
Gallwn eich helpu i sicrhau eich bod ganddoch y dogfennau cywir mewn lle i’ch cwmni, a bod y dogfennau yn ateb gofynnion Deddf Cwmniau 2006.
Os ydych angen unrhyw gymorth hefo adolygu neu diweddaru erthyglau eich cwmni, cyngor am dyletswyddau cyfarwyddwr, drafftio cofnodion bwrdd, penderfryniadau neu ffeilio dogfennau Ty Cwmniau, cysylltwch a ni.
Atwrnai Busnes
Pan yn dewis stwythur eich busnes mae’n bwysig i chi ystyried beth all ddigwydd i chi yn y dyfodol, a sut bydd eich busnes yn gweithredu mewn amgylchiadau annisgwyl.
Dylech felly ystyried apwyntio Atwrnai i ddelio a materion busnes ar eich rhan os byddwch chi yn methu gwneud hyny.
Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni, yn bartner busnes neu mewn busnes ar eich liwt eich hun dylech sicrhau bod trefniadau yn eu lle fel y gall eich busnes barhau os byddwch yn methu gwneud penderfyniadau am ryw reswm. Gallwch fod mewn sefyllfa lle na fydd eich busnes yn medru talu cyflog staff, dalu cyflenwyr na gwneud cytundebau.
Gall Bone and Payne eich cynorthwyo drwy gynnig cyngor arbenigol a sicrhau fod y dogfennau priodol yn eu lle.
Gallwn eich helpu i ddewis y pobl cywir rydych yn ymddiried ynddynt ac yn deall eich busnes.
Bydd hyn yn sicrhau bod eich busnes yn parhau pe baech yn yn colli y gallu I wneud penderfyniad, yn cael damwain neu os ydych allan o’r wlad am gyfnod
Cysylltwch a Gareth Tierney- Jones Mark Sandham neu Carys Jenkins am fwy o fanylion.
Am wasanaethau masnachol eraill cysylltwch a’n Tim Cyfraith Cwmniau a Masnachol.
Residential & Commercial Conveyancing Business Matters • Landlord & Tenant
Company & Commercial Law • Commercial & Residential Conveyancing • Employment Law