

Yr ydym yn bobl proffesiynol sydd wedi ennill ymddiriedaeth dros genedlaethau. Ers dros ganrif mae pobl ar draws Gogledd Cymru wedi ymddiried ynom i’w cynrychioli mewn ystod eang o faterion cyfreithiol personol, teuluol, a busnes. Mae’r gwasanaeth yr ydym yn gynnig yn un personol a lleol. Ni fyddwn yn defnyddio cyfryngau allanol ar gyfer unrhyw agwedd o’n busnes. Mae pob aelod o’r staff y byddwch yn eu cyfarfod wedi eu lleoli mewn un o’r tair swyddfa leol. Mae ein tîm o gyfreithwyr cymwysedig o fewn y dair swyddfa yn ymdrechu i gynnal ein traddodiad o gynnig gwasanaeth gofalus ac effeithiol, ac yn ceisio cyrraedd y canlyniad gorau yn amgylchiadau eich achos chwi.
Dyfarnwyd gwobr “Lexcel” ,safon rheoli practis Cymdeithas y Cyfreithwyr, i gwmni Bone & Payne.. Dyfernir y wobr i gwmniau sydd yn cyrraedd safon uchel o reolaeth busnes a gofal cwsmeriaid. Fel cwmni trwyddiedig Lexcel cawn ein asesu yn drwyadl yn flynyddol i sicrhau ein bod yn cydymffurfio a’r anghenion gofynnol.
Gwasanaeth Cyflawn
Medrwn eich cynorthwyo i ddelio gyda’r gwasanaethau canlynol :
- Prynu a gwerthu eich tŷ
- Prynu a Gwerthu Busnesau
- Landlord a Thenant
- Atwrneiaeth Parhaol a Gallu Meddyliol
- Profiant ac Ymddiriedolaeth a Gwaith Cwsmer Henoed
- Ewyllysiau a Chynllunio Trethi
- Anaf Personol
- Cyfiawnder Troseddol
- Adferiad anghydfodau gan gynnwys Gwaith LLys cyfryngol
- Teulu a Phlant
Ni yw’r unig gwmni yn Sir Conwy sydd yn medru darparu Gwasanaeth Notari.