Yn eisiau!

Cyfreithiwr newydd gymhwyso, gweithredydd cyfreithiol siarteredig neu bara-gyfreithiwr.i ymgymryd â gwaith teulu ac ymgyfreitha sifil.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â chwmni stryd fawr sydd wedi ei hen sefydlu yng ngogledd Cymru. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad ym maes gwaith teulu ac ymgyfreitha sifil a bydd yn gallu rheoli ei lwyth gwaith prysur ei hun.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn drefnus, yn weithgar ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf.  Disgwylir iddynt gyfrannu at dwf a datblygiad y cwmni.

Byddai’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a phrofiad o ddefnyddio sytem rheoli achosion o fantais.

Rydym yn hapus i ystyried cais am waith rhan-amser. Cyflog a thelerau i’w trafod.

Anfonwch lythyr a CV at yn gwyndaf@boneandpayne.co.uk