Gwasanaethau Notari

Notary Services

Gwasanaethau Notari

Gwasanaethau Notari

Mae “Notari Cyhoeddus” yn gyfreithiwr sydd ag awdurdod i baratoi, i dystiolaethu, neu i ardystio dogfennau fydd yn cael eu danfon dramor. Bydd dogfen yn aml wedi ei pharatoi gan gyfreithiwr mewn gwlad dramor, ac fe all gynnwys pwerau atwrneiaethol, tyngu llw, cyfamodau. dogfennau eiddo, neu dystysgrifau cyfreithlon.

  • Dyma ychydig enghreifftiau o amgylchiadau lle gall gwasanaeth Notari fod o ddefnydd:
  • Arwyddo Pwerau Atwrneiaethol i’w defnyddio ar draws y byd.
  • Trefnu cyfieithu dogfennau cyfreithlon a sicrhau eu cywirdeb
  • Gwirio dogfennau cofnod oddiwrth sefydliadau megis Ty Cwmniau, Cofrestrydd Genedigaeth Prriodas a Marwolaeth.
  • Cynorthwyo cyfreithwyr gwledydd eraill i sefydlu cwmniau dramor gyda swyddogion Prydeinig.
  • Gweinyddu llwon yn ogystal a Datganiadau Statudol neu Gadarnhaol gogyfer â gofynion cyfreithlon gwledydd tramor.
  • Sicrhau deddfolrwydd dogfennau, wedi eu Notareiddio neu beidio, gan Lysgenhadaeth dramor, neu ddelio gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
  • Protestio Biliau Cyfnewid
  • Protestiadau llong
  • Cadarnhau dilysrwydd cymwysterau academaidd neu eraill.
  • Notareiddio gweithredu ewyllysiau  tramor
  • Cynorthwyo gwireddu pobl a thrwyddedau teithio yn y broses o fabwysiadu dramor.

Mae’n ofynnol i Notari wireddu adnabyddiaeth, gallu gyfreithiol, a dealltwriaeth ô’r ddogfen ar gyfer pob cwsmer, ac hefyd i gadarnhau ei awdurdod i arwyddo os bydd yn gwneud hynny ar rhan rhywun arall – megis cwmni cyfyngedig.

Gan ei fod yn gyfreithiwr cymwysedig gall y Notari hefyd ymgymeryd â phob math arall o waith cyfreithlon, heblaw am waith mewn llys barn.

Mae ein tîm yn cynnwys Notari Cyhoeddus, sef Mark Sandham. Enillodd ef y cymwysterau sydd yn ei alluogi i ymgymeryd â’r gwaith yn 2008 , ac y mae yn awr yn aelod o’r Gymdeithas Notariaid. Er mwyn sicrhau cydymffurfio ag anghenion y gyfraith mae ei bractis  notariaidd yn hollol annibynnol o weddill busnes Bone & Payne.

Cysylltwch â Mark Sandham i ddarganfod sut y gall fod o gymorth mewn materion Notariaidd.

Wills • Probate & the Administration of Estates • Powers of Attorney • Residential & Commercial Conveyancing  • Notary Services